School Logo

Ysgol Gymraeg y Ffin

Contact Details

Blodeuwedd / Dosbarth Trochi / Immersion Class

Dosbarth Blodeuwedd: Dosbarth Trochi Iaith

Blodeuwedd Class: Immersion Class

Mae dosbarth Blodeuwedd yn dechrau'r pedwerydd cylchred y tymor yma. Dosbarth trochi iaith yw'r dosbarth. Mrs Farrant sydd yn arwain y dosbarth yma: Fe fydd dysgwyr o flwyddyn 2 hyd at flwyddyn 6, sydd yn newydd i'r ysgol ac yn ddi-gymraeg, yn gallu ymuno gyda'r dosbarth yma. Fel arfer bydd y plant yn gweithio yn y dosbarth trochi a byddent yn ymuno gyda'u dosbarthiadau cofrestru ar adegau yn ystod yr wythnos er mwyn cymdeithasu a gweithio gyda'u cyfoedion. Fe fydd dysgu yn y dosbarth trochi yn canolbwyntio ar ddatblygu iaith lafar y dysgwyr gan ddefnyddio gemau a thasgau ymarferol yn bennaf wedi'u cynllunio ar gyfer gallu a gofynion pob dysgwr. Fe fydd gweithgareddau darllen ac ysgrifennu yn cael eu defnyddio i gydgrynhoi'r gwaith llafar. Fe fydd grwpiau bach o blant yn y dosbarth yma ac felly fe fydd tasgau pwrpasol yn cael eu gosod ar gyfer bob dysgwr. Y bwriad yw i blant treulio tymor yn dysgu yn nosbarth Blodeuwedd ac yna yn ymuno gyda'u dosbarth cofrestru wedi codi ddigon o iaith er mwyn parhau addysg gyda'u cyfoedion. Erbyn hyn mae saith plentyn wedi graddio o ddosbarth Blodeuwedd ac wedi ymuno gyda'u dosbarthiadau cofrestri.

 

Blodeuwedd class has begun its fourth cycle this term. It is an immersion class. Mrs Farrant leads this class: Leaners between year 2 and year 6, who are new to the school and cannot speak welsh, may join this class. The learners will usually work in the immersion class and then will join their peers in their registration classes in order to socialise and learn alongside their peers. The learning in the immersion class will focus on developing spoken language using practical activities and games which have been planned according to the needs of each learner. Reading and writing activities will be used to consolidate their oracy work. There will be small groups of children in this class and therefore the tasks will be bespoke and prepared for each child. The aim is that the learners will spend a term in Dosbarth Blodeuwedd and will then join their registration classes having developed their welsh language sufficiently to be taught alongside their peers. To date seven pupils have graduated from Blodeuwedd class and these pupils have now joined their registration classes.

 

Gwaith Cartref: Fe fydd gwaith cartref yn cael ei osod ar Ddydd Iau a disgwylir i'r gwaith cael ei gwblhau erbyn y Dydd Llun canlynol. Ar adegau fe fydd gwaith ymarferol yn cael ei osod ac efallai bydd yn fwy addas i wneud hyn am bytiau bach o amser ond yn fwy aml. Fe fydd gwaith cartref naill ai ar bapur neu yn cael ei osod ar Dojo Blodeuwedd. Os yn bosib fe fyddai'n hyfryd derbyn llun neu neges o'r gweithgareddau yma ar Dojo fel ein bod ni'n gallu dathlu profiadau'r dysgwyr gyda'n gilydd. 

 

Homework: This will be assigned on a Thursday and usually collected in on the following Monday. However some tasks may be practical in nature and therefore may be more appropriate to be carried out on a 'little and often' basis. Work will be placed on paper or on Blodeuwedd Dojo. If practical work is assigned it would be lovely to receive a picture or a message via Dojo to capture the experience of this work and to celebrate their experiences together. 

Top