School Logo

Ysgol Gymraeg y Ffin

Contact Details

Cwricwlwm/Curriculum

Crynodeb Cwricwlwm / Curriculum Summary

Mae datblygu cwricwlwm trawsnewidiol yn hanfodol i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer disgyblion Ysgol Gymraeg y Ffin. Bydd ganddynt safonau llythrennedd a rhifedd uwch, byddant yn dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac yn esblygu'n feddylwyr mentrus, creadigol a beirniadol. Bydd ein cwricwlwm newydd yn cynnwys tegwch a rhagoriaeth yn ei hanfod ac yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc fel dinasyddion hyderus, galluog a gofalgar. Mae'r cwricwlwm newydd yn disodli'r cyfnodau allweddol presennol gyda 'chamau cynnydd', a chaiff ei drefnu'n chwe Maes Dysgu a Phrofiad – y celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; a gwyddoniaeth a thechnoleg.

Un o'r negeseuon cryfaf o'r cwricwlwm newydd yw y dylid cael 'datganiad syml a pharhaus o ddibenion cwricwlwm i Gymru'.  Mae adolygiad Donaldson yn argymell pedwar diben craidd i Gwricwlwm Cymru ac yn dweud, os cânt eu cefnogi'n gyffredinol, y dylent 'lywio pob penderfyniad yn y dyfodol am flaenoriaethau addysgol cenedlaethol a lleol a bod yn sail i'r holl addysgu a dysgu yng Nghymru'.

Y pedwar diben yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc:

•Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

•Cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn mewn bywyd a gwaith.

•Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd yn barod i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd.

•Unigolion iach a hyderus sy'n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

 

Developing a transformational curriculum is crucial to realising our vision for pupils at Ysgol Gymraeg y Ffin. They will have higher standards of literacy and numeracy, become more digitally and bilingually competent, and evolve into enterprising, creative and critical thinkers. Our new curriculum will have equity and excellence at its core and help develop our young people as confident, capable and caring citizens.

The new curriculum replaces existing key stages with ‘progression steps’, and will be organised into six Areas of Learning and Experience (AoLE) – expressive arts; health and well-being; humanities; languages, literacy and communication; mathematics and numeracy; and science and technology.

One of the strongest messages from the new curriculum is there should be a ‘straightforward, enduring statement of curriculum purposes for Wales’.

The Donaldson Review recommends four core purposes to the Curriculum for Wales and says that, if generally supported, they should ‘guide all future decisions about national and local educational priorities and underpin all teaching and learning in Wales’.

The four purposes are that all children and young people will be:

•Ambitious, capable learners who are ready to learn throughout their lives.

•Enterprising, creative contributors who are ready to play a full part in life and work.

•Ethical, informed citizens who are ready to be citizens of Wales and the world.

•Healthy, confident individuals who are ready to lead fulfilling lives as valued members of society.

Cwricwlwm i Gymru - Gwybodaeth

Curriculum for Wales - Information

Top