School Logo

Ysgol Gymraeg y Ffin

Contact Details

Macsen

Croeso i ddosbarth Macsen!

 

Rydym yn ddosbarth o 24 o blant hapus. Ein hathro dosbarth yw Mr James. Rydym yn mwynhau dysgu pethau newydd ac yn caru tasgau ymarferol. Mae ein sesiynau Addysg Gorfforol yn digwydd bob dydd Gwener ac rydym wrth ein bodd yn cymryd rhan. Bob yn ail ddydd Iau mae Mrs Evans yn ein dysgu ac  rydym yn ymarfer ein tablau lluosi ac yn datblygu ein sgiliau rhifedd. Trwy wersi Celf, Dylunio a Thechnoleg rydym yn datblygu sgiliau a dealltwriaeth o wahanol brosesau ac yn datblygu ein meddyliau a’n profiadau creadigol.

 

Ein thema ni'r tymor yma ydy 'Fy Mheiriant Amser'! Os oes gennych chi unrhyw sgiliau neu brofiadau i gefnogi ein thema, cysylltwch â'r ysgol os gwelwch yn dda!

Rydyn ni'n defnyddio dojo a instagram @ysgolyffin i gadw cyswllt gyda rhieni a gofalwyr ac yn llwytho lluniau o weithgareddau yn gyson pob wythnos.

 

Bydd ein llyfrau darllen yn mynd adref drwy'r wythnos a byddwn yn dychwelyd y rhain ar ddydd Llun. Rydyn ni wrth ein bodd yn ennill pwyntiau dojo ac yn hoffi ennill seren yr wythnos!

Welcome to Macsen!

We are a class of 24 happy children. Our class teacher is Mr James. We enjoy learning new things and love practical tasks. Our PE sessions take place every Friday and we love taking part. Every other Thursday Mrs Evans teaches us and we practise our multiplication tables and develop our numeracy skills.  Through Art, Design and Technology lessons we develop skills and understanding of different processes and develop our creative minds and experiences.  

 

Our theme this season is 'My Time Machine'! If you have any skills or experiences to support our theme, please contact the school!


We use dojo and Instagram @ysgolyffin to keep in touch with parents and carers and regularly upload pictures of activities every week.

 

Our reading books will go home throughout the week and we return these on a Monday. We love to earn dojo points and like to win star of the week!

Gwaith Cartref/Homework

Top