School Logo

Ysgol Gymraeg y Ffin

Contact Details

Branwen

**********

Croeso i Ddosbarth Branwen

 

Mae yna 30 disgybl brwdfrydig a gweithgar yn ein dosbarth. Rydyn ni'n ddosbarth cymysg o flwyddyn 5 a 6. Mrs Jones yw ein hathrawes dosbarth, mae Mrs J Evans a Mrs Williams yn gweithio gyda grwpiau bach yn ystod sesiynau gwahanol yn ystod yr wythnos, ac mae Mrs N Evans yn ein dysgu pob yn ail ddydd Llun a phob Dydd Gwener.
Yn ystod wythnosau gwahanol mae Mrs Anthony  yn gwneud sesiynau Ysgol Y Goedwig gyda ni ac mae Mrs Hartshorne yn gwneud sesiynau lles a Meddylfryd Twf gyda ni weithiau hefyd. 


Ein thema ni'r tymor yma ydy 'Newyddion @ 10'! Os oes gennych chi unrhyw sgiliau neu brofiadau i gefnogi ein thema, cysylltwch â'r ysgol os gwelwch yn dda!


Rydyn ni'n defnyddio dojo a Thrydar @ysgolyffin i gadw cyswllt gyda rhieni a gofalwyr ac yn llwytho lluniau o weithgareddau yn gyson pob wythnos.

 

Bydd llyfrau  darllen Cymraeg a Saesneg yn cael ei ddanfon adref gyda'r plant yn wythnosol a bydd y disgyblion yn gallu cadw cofnod o'u llyfrau darllen ar eu cofnod darllen wythnosol.

 

Mae gennym sesiwn Addysg Gorfforol pob dydd Gwener, sy'n cynnwys sesiwn rygbi gyda Rygbi'r Dreigiau pob yn ail Ddydd Gwener, cofiwch ddod â  gwisg addas i'r Ysgol er mwyn cymryd rhan.  Os oes gan eich plentyn rheswm dilys am beidio cymryd rhan, a fedrwch chi ddanfon llythyr o esboniad i'r ysgol os gwelwch yn dda.

 

Diolch yn fawr,

 

Mrs Jones.

 

Welcome to Dosbarth Branwen

 

There are 30 enthusiastic and hard working pupils in our class. We are a mixed class of year 5 and 6. Mrs Jones is our class teacher, Mrs J Evans and Mrs Williams work with small groups during different sessions during the week, and Mrs N Evans teaches us every other Monday and every Friday.
During different weeks Mrs Anthony carries out Forest School sessions with us and Mrs Hartshorne carries out wellbeing and Growth Mindset sessions with us sometimes too.

 

Our theme this season is 'News @ 10'! If you have any skills or experiences to support our theme, please contact the school!

 

We use dojo and Twitter @ysgolyffin to keep in touch with parents and carers and regularly upload pictures of activities every week.

 

Welsh and English reading books will be sent home with the children weekly and the pupils will be able to keep a record of their reading books on their weekly reading record.

 

We have a Physical Education session every Friday, which includes a rugby session with the Dragons Rugby every other Friday, remember to bring suitable clothing to the School in order to participate. If your child has a valid reason for not participating, could you please send a letter of explanation to the school.

 

Thank you very much,

Mrs Jones.

Gair gan Mrs N Evans:

Pob dydd Gwener rydym yn ymarfer ein tablau lluosi ac yn datblygu ein sgiliau rhifedd.  Trwy'r wersi'r Celfyddydau Mynegiannol rydym yn datblygu sgiliau a dealltwriaeth o wahanol brosesau ac yn datblygu ein meddyliau a'n profiadau creadigol.  Rydyn ni'n mwynhau dysgu sgiliau celf newydd, prosesau dylunio a thechnoleg a sut i fynegi a chyfathrebu trwy gerddoriaeth a drama.

Mrs Evans

 

A message from Mrs N Evans: 

Every Friday we practise our multiplication tables and develop our numeracy skills.  Through the Expressive Arts lessons we develop skills and understanding of different processes and  develop our creative minds and experiences. We're enjoying learning new art skills, design processes and how to express and communicate through music and drama.
Mrs Evans 

**********

Gwaith Cartef

Home Work

**********

Ar ddechrau pob thema rydym yn gwahodd rhieni a gofalwyr mewn i'r ysgol i gynllunio gyda ni!

At the start of every theme we invite parents and carers in to school to plan with us!

**********

Ein Oriel - Tymor yr Hydref

Our Gallery -  Autumn Term

Ein Oriel - Tymor y Gwanwyn

Our Gallery -  Spring Term

**********

Gwefanau Defnyddiol / Useful Links

**********

Top