School Logo

Ysgol Gymraeg y Ffin

Contact Details

Croeso/Welcome

Mae dewis yr ysgol gywir i'ch plentyn yn hollbwysig.  Mae'r rhan fwyaf o rieni am sicrhau addysg da i'w plant ond maent hefyd am iddynt fod yn hapus a theimlo'n ddiogel.  Yn Ysgol Gymraeg y Ffin, credwn y gallwn gynnig pob un o'r nodau yma.    

 

Yn yr ysgol hon, rydym yn ymfalchio yn yr ffaith ein bod yn cynnig cwricwlwm cyflawn ac eang i'n plant.  Yn ogystal a siarad yn rhugl yn y ddwy iaith, sgiliau mathemategol, creadigol a thechnolegol, bydd eich plentyn yn magu hyder, annibyniaeth, y gallu i wneud penderfyniadau a'r gallu i fynegi barn a theimladau mewn ffordd eglur.  Rydym yn gosod pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol y plant wrth eu helpu i adeiladu perthynas agos, barchus gyda phlant ac oedolion.  Anogwn y plant i ddangos sensitifrwydd tuag at deimladau ac anghenion eraill.

 

Gallaf eich sicrhau taw llwyddiant a chynnydd yw'r geiriau mawr yn yr ysgol hon.  Mae staff yr ysgol yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei lawn botensial mewn awyrgylch hapus ac heriol.  Anelwn at ddatblygu hunan werth ym mhob unigolyn, wedi'r cyfan, os ydych yn teimlo'n llwyddiannus wedyn fe fyddwch yn llwyddiannus!

 

Mae'ch cyfraniad chi yn holl bwysig yn y broses hon.  Anelwn bob amser i roi gwybodaeth i chi am y ffyrdd rydyn ni'n gweithio gyda'ch plentyn.  Bydd croeso i chi drafod gwaith a datblygiad eich plentyn gyda ni yn gyosn, ac ymfalchiwn yn ein dulliau cyfathrebu llwyddiannus gyda'n rhieni.

 

Mae plentyndod yn amser arbennig iawn a dim ond un cyfle mae pob plentyn yn cael i'w brofi.  Byddwn ni yma yn Ysgol y Ffin yn gwneud pob peth y gallwn i wneud plentyndod yn brofiad hapus, gwerth chweil i'ch plentyn.

 

Cysylltwch a mi yn yr ysgol os hoffech fwy o wybodaeth, neu os hoffech ymweld a'r ysgol.

 

Miss Catrin Daniel

Pennaeth

 

Choosing the right school for your child is vitally important.  Most parents want a good education for their children but they also want them to be happy and to feel secure.  At Ysgol Gymraeg y Ffin we believe we can offer all these aims.

 

In our school we pride ourselves on the broad, balanced and full education we provide for our pupils.  In addition to being able to converse naturally in two languages, mathematical, creative and technological skills, your child will build confidence and independence, and will learn to make decisions and develop the ability to articulate feelings and ideas.  We place great importance on developing social skills in our children by helping them to build relationships with other children and adults.  We encourage them to be sensitive towards the feelings and needs of others.

 

I can assure you that success and progress are the two important words in our school.  The staff work diligently to ensure that every child reaches his / her full potential in a happy and challenging environment.  We aim to develop each child's self-esteem, after all, if you feel successful then you will be successful!

 

Your contribution is all important in this whole process.  We will aim to keep you informed about the way in which we work with your child.  There will always be a opportunities for you to discuss your child's development and progress. We have many forms of successful communication with our parents, through various platforms.

 

Childhood is a very special time.  Each child gets only one chance to sample it.  We, here at Ysgol Gymraeg y Ffin, will do everything we can to make childhood a happy, worthwhile experience for your child.

 

Please contact me in school should you require more information, or should you wish to visit the school.

 

Miss Catrin Daniel

Head teacher

Top